Cymraeg

Gweler ein tudalen Pwyllgorau Ysgol Caersws i weld mwy o fanylion am sut mae Criw Cymraeg yn helpu i ddatblygu’r Gymraeg yn ysgol Caersws.

Dysgu Cymraeg yn Ysgol Caersws

Rydym yn gweld dysgu Cymraeg fel rhan bwysig o’n cwricwlwm.

Gweler y dolenni isod i ddeall pwysigrwydd dysgu Cymraeg ac i ddod o hyd i adnoddau darllen i gynorthwyo eich plentyn.
Coeden Darllen Rhydychen – Chwilio – Hwb (llyw.cymru)
Dref Wen- Llyfrau llafar Cymraeg am ddim - Llyfrau Llafar Cymraeg am Ddim gan Blant – Dref Wen
Amser Stori Atebol – amser stori Cymraeg – Yr Hipo Cyntaf ar y Lleuad | Amser Stori Atebol – YouTube

Dolen fideo i egluro rôl y Criw Cymraeg-
https://www.j2e.com/erw2/Gwenan+H/FIDIOS+SIARTER+IAITH+RHIENI/PARENTS+Fideo+Siarter+IaithSaesneggydag +is-dei

Gwrandewch ar gerddoriaeth Gymraeg

Mae BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 (gorsafoedd radio Cymraeg y BBC) unwaith eto wedi bod yn gweithio’n agos gyda thîm Siarter Iaith Gymraeg i greu adnodd bendigedig. Mae Miwsig Y Siarter Iaith yn rhestr chwarae o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes y gall pawb ei mwynhau, a dim ond un clic i ffwrdd ydyw! Y mis yma rydym wedi dewis ein traciau i ddathlu Gwanwyn!

Mynediad trwy'r ddolen hon - https://www.bbc.co.uk/sounds/brand/m0015t6n   

Cliciwch, gwrandewch a mwynhewch!

Lawrlwythiadau

Criw Cymraeg

Mae Criw Cymraeg yn falch o fod wedi arwain yr ysgol i ennill Gwobrau Efydd ac Arian y Siarter Iaith ac maent bellach yn gweithio ar gyflawni'r safon Aur.

Fideos