Jiwbilî'r Frenhines

Mae plant Ysgol Caersws wedi bod yn dysgu popeth am y Frenhines a'i theyrnasiad fel rhan o'u pwnc ysgol. Daeth y gwaith hwn i ben gyda chinio picnic Jiwbilî yn yr heulwen hardd a fwynhawyd gan bawb, cyn i’r ysgol gynnal te prynhawn ar thema’r Jiwbilî ar gyfer cymuned yr ysgol gyfan. Roedd hwn yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yr ysgol yn falch iawn o weld cymaint o deuluoedd a ffrindiau yn gallu ymuno â nhw.