Cafodd yr ysgol ddau ymwelydd cerddorol arbennig yn ddiweddar. Yn gyntaf, bu Sarah Barnwell yn ymweld ar ddydd Mawrth 29 Tachwedd i gyflwyno gwasanaeth ysgol gyfan ar yr iwcalili. Cafodd llawer o blant gyfle i roi cynnig ar chwarae un o’r offerynnau niferus rydym wedi’u prynu fel ysgol ac roedd rhai plant sy’n gyfarwydd (trwy gael gwersi) yn gallu arddangos eu sgiliau. Mae gan yr ysgol berthynas ardderchog gyda Sarah, gan mai hi yw un o'r ysgolion cyntaf i'w chroesawu i fynychu gwersi offerynnol gyda'r holl blant. Yn dilyn hyn, mynychodd Alis Huws, telynores frenhinol yn yr ysgol i berfformio cyngerdd i’r plant. Mwynhawyd hyn yn fawr gan bawb.







