Gweithgareddau Calan Gaeaf

Yn ogystal â disgo Calan Gaeaf gwych a gynhaliwyd gan ein pwyllgor Ffrindiau’r Ysgol, cymerodd disgyblion ar draws yr ysgol ran mewn cystadleuaeth addurno pwmpenni. Roedden ni mor falch o nifer y ceisiadau a’r dychymyg a’r creadigrwydd a ddangoswyd. Roedd hi’n anhygoel o anodd dewis enillydd.