Ymweld a gweithio gyda Ysgol Dyffryn Trannon

Mae perthynas wych rhwng Ysgol Caersws a Ysgol Dyffryn Trannon ac roeddem wrth ein bodd yn ymuno â’n gilydd i brofi rhai gemau Cymraeg a gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar ar brynhawn dydd Mawrth 18ed Hydref. Cafodd llawer o’n disgyblion gyfle i glywed plant eraill yn siarad Cymraeg iaith gyntaf am y tro cyntaf ac roedd yn gyfle gwych i’r holl blant hŷn ddod i adnabod ei gilydd cyn gweithgareddau pontio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.