Mae’r plant wedi cael gwahoddiad i fynychu Clwb yr Urdd ar ôl ysgol yn ystod tymor yr haf eleni. Maent wedi gallu ymarfer a datblygu eu defnydd o’r Gymraeg wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a gemau, gan gynnwys cyfeiriadu, Addysg Gorfforol, celf a chrefft, codi hwyl a heriau dylunio a thechnoleg.






















