Cawsom Eisteddfod hyfryd ar ôl dychwelyd i'r ysgol. Bu disgyblion o bob dosbarth yn diddanu trwy berfformio ystod o ganeuon a datganiadau. Yn ogystal, cymerodd disgyblion ran mewn cystadleuaeth llawysgrifen a chelf gyda’r enillwyr yn cael eu datgelu ar y diwrnod.


































