Yn ddiweddar, mae'r ysgol wedi gweithio ar y cyd â'r cyngor lleol, Trafnidiaeth Cymru a'r Ganolfan Gelfyddydau i greu dau banel i gymryd lle'r rhai a oedd gynt yn dathlu'r pentref yn yr orsaf drenau leol. Mae un yn darlunio map o'r pentref, tra bod y llall yn dathlu meistr yr orsaf a'r bardd John Ceiriog Hughes. Gweithiodd y disgyblion a'r staff mor galed ar y rhain ac rydym yn gobeithio y gall pawb sy'n teithio trwy Gaersws eu mwynhau.
















