Trip Eglwys

Cafodd Dosbarth 2 a 3 fore bendigedig yn ymweld ag Eglwys Sant Gwynog yn Llanwnog. Cawsant gyfleoedd i ddysgu am rannau’r Eglwys a’i chyfenw Sant Gwynog, buont yn canu i’r organ, yn edrych ar y beddau, yn enwedig bedd y bardd o Gaersws, John Ceiriog Hughes, yn addurno pwmpenni a hyd yn oed yn canu’r clychau. Cawsom amser bendigedig.