Gwahoddwyd disgyblion Blwyddyn 5 i fynd ar drip preswyl 4 diwrnod i Honeypot House. Ffocws y daith hon oedd lles. Mwynhaodd y plant amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys nofio a thaith i'r Gwaith Haearn. Yn ystod y daith hon fe ddatblygon nhw ystod o sgiliau fel annibyniaeth, dyfalbarhad, hyder, creadigrwydd a chydweithio.




























































