Gwobr Siarter Arian Cymru

Roedd cymuned gyfan Ysgol Caersws wrth eu bodd yn ennill Gwobr Arian y Siarter Iaith ddydd Iau 8ed Chwefror.

Gweithiodd y cydlynydd Cymraeg yn frwdfrydig gyda holl aelodau’r Criw Cymraeg i arwain yr ysgol yn llwyddiannus wrth gyflawni’r holl dargedau.

Mae cymuned yr ysgol gyfan wedi gweithio'n galed iawn dros y 18 mis diwethaf ac maent i gyd wrth eu bodd yn cyrraedd y safonau gofynnol.

Rydym i gyd yn benderfynol o barhau â’r gwaith caled.